Rheolwr y Prosiect
Mae Nicola yn rheolwr prosiect profiadol a chymwys ac mae ganddi radd Meistr mewn Rheoli ac Arwain.
Mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad o weithio â sefydliadau yn y sector preifat, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector. Mae'n Hyfforddwr Gweithredol cymwys ac mae wedi hyfforddi arweinwyr o bob sector.
Mae Nicola, sy'n weithiwr dysgu a datblygu proffesiynol cymwys a phrofiadol, wedi hyfforddi'n lleol ac yn rhyngwladol. Mae'n gadarn o blaid datblygu cynaliadwy ac, yn sgil hynny, gynyddu nifer y busnesau o dan berchnogaeth y gweithwyr yng Nghymru a gwella eu proffil.
Cysylltwch â Nicola:
Cynghorydd Arbenigol
Mae gan Paul dros 40 mlynedd o brofiad yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus. Mae'r busnesau a'r sefydliadau y mae wedi eu cynghori yn amrywio o ICI, BP Chemicals, Dunlop, Monsanto, Goodyear, Ford a Toyota i Mirror Group Newspapers, Cyngor Dinas Birmingham, y Cenhedloedd Unedig a Swyddfa'r Gymanwlad.
Bu'n aelod o Fwrdd Cynghori Is-adran Gwyddoniaeth a Thechnoleg y Llyfrgell Brydeinig ac yn aelod o Fwrdd Gorllewin Canolbarth Lloegr y Prince's Trust.
Symudodd Paul i Gymru yn 2009 ac mae wedi bod yn rhoi cyngor i gwmnïau ar Berchnogaeth gan y Gweithwyr ers hynny. Bu'n gweithredu fel y prif gynghorydd i lawer o gwmnïau sydd wedi trawsnewid gan ddefnyddio Ymddiriedolaethau Perchnogaeth gan y Gweithwyr a Chynlluniau Pryniant gan y Rheolwyr. Mae hefyd wedi cynllunio ac wedi cyflwyno llawer o Gynlluniau Cyfranddaliadau i Weithwyr llwyddiannus ledled Cymru.
Cysylltwch â Paul:
Cynghorydd Arbenigol
Mae Branwen wedi bod yn cynghori busnesau preifat, mentrau cymdeithasol mentrau cydweithredol ac elusennau ers dro20 mlynedd, gan gefnogi cleientiaid ar draws ystod o sectorau gyda’u cynlluniau twf ac olyniaeth.
Gydag arbenigedd penodol ym maes datblygu cynaliadwy, llywodraethu corfforaethol, ac ymgysylltu â gweithwyr, mae Branwen yn meddu ar yr offer a'r wybodaeth i gefnogi busnesau trwy broses ardystio B Corp ac mae'n Arweinydd B (B Leader) cymwys.
Mae gan Branwen wybodaeth gadarn am reolaeth ariannol ac mae ganddi Dystysgrif CIMA mewn Cyfrifeg Busnes yn ogystal â Diploma'r Institute of Export mewn Masnach Ryngwladol.
Cysylltwch â Branwen:
Cynghorydd Arbenigol
Mae gan Sarah dros 25 mlynedd o brofiad fel cynghorydd busnes a dechreuodd ymwneud â chynlluniau Perchnogaeth gan y Gweithwyr ar ôl sefydlu'r Gronfa Benthyciadau Cymunedol yng Nghymru yn 2000. Yn ystod y cyfnod hwn fel Swyddog Buddsoddi Gweithredol, roedd Sarah yn gyfrifol am ddadansoddi cynlluniau busnes a rhagolygon ariannol ac am argymell buddsoddiadau er mwyn helpu Busnesau o dan Berchnogaeth y Gweithwyr i dyfu.
Yn 2011, cafodd Sarah ei chyflogi gan Ganolfan Cydweithredol Cymru a bu'n rhoi cyngor i gwmnïau ar Berchenogaeth gan y Gweithwyr ers hynny. Bu'n gweithredu fel y prif gynghorydd i gwmnïau sy'n trawsnewid gan ddefnyddio Ymddiriedolaethau Perchnogaeth gan y Gweithwyr ac mae'n arbenigo ym maes llywodraethu corfforaethol ac ymgysylltu â gweithwyr.
Cysylltwch â Sarah:
Cynghorydd Arbenigol
Mae Mike yn Gynghorydd Busnes profiadol, ar hyn o bryd yn gweithio ar y rhaglen Perchnogaeth gan Weithwyr yng Nghwmpas. Mae ganddo hanes o weithio yn y diwydiant rheoli masnachol a dielw, mae wedi bod yn aelod o - ac wedi cadeirio - nifer o fentrau cymdeithasol a sefydliadau cymunedol, ac ar hyn o bryd mae'n gadeirydd elusen treftadaeth ddiwydiannol.
Gyda sgil mewn Menter Gymdeithasol, Cynllunio Busnes, Hyfforddi, Ariannu, a Rheoli Gwirfoddolwyr, mae Mike yn weithiwr proffesiynol ymgynghori cryf gyda BA (Anrh) yn canolbwyntio ar Fancio a Chyllid o Brifysgol Canolbarth Lloegr.
Cysylltwch â Mike
Cynghorydd Datblygu'r Farchnad
Rhodri yw’r cynghorydd datblygu marchnad ar Berchnogaeth Gweithwyr yng Nghwmpas ac mae ganddo dros 20 mlynedd o brofiad yn gweithio gyda busnesau bach yn y DU.
Gyda gradd mewn marchnata, gradd Meistr mewn Rheolaeth a chymwysterau proffesiynol CIM a CIPD, mae ei wybodaeth yn fwy perthnasol nag erioed wrth gefnogi’r tîm cynghori i hyrwyddo perchnogaeth gweithwyr fel model sy’n gwella ymgysylltiad gweithwyr ac yn sicrhau cynaliadwyedd hirdymor i fusnesau Cymru.
Cysylltwch â Rhodri