Beth sydd ei angen i fod yn ymddiriedolwr Ymddiriedolaeth Perchnogaeth gan Weithwyr (EOT) effeithiol? 27/10/2026 – 10am – 11.30am Ar-lein
27/10/2026 – 10am – 11.30am Ar-lein
Mae rôl yr ymddiriedolwr EOT yn un bwysig. Mae gan ymddiriedolwyr gyfrifoldeb i sicrhau bod y busnes yn parhau i weithredu er budd y gweithwyr.
Ond beth sy'n gwneud ymddiriedolwr EOT da? Pa sgiliau, ymddygiadau a gwybodaeth sydd eu hangen – a sut gall ymddiriedolwyr gydweithio'n effeithiol?
Bydd y sesiwn ymarferol a rhyngweithiol hon yn trafod beth sy'n gwneud ymddiriedolwr effeithiol ac yn rhoi cyfle i chi fyfyrio ar eich rôl eich hun.
Pwy ddylai fynychu?
Mae'r sesiwn sgiliau hon wedi'i hanelu at unrhyw un sydd yn gweithredu fel ymddiriedolwyr EOT, boed yn gynrychiolwr o’r gweithlu, y tîm rheoli neu swyddog annibynnol sydd am ddatblygu eu dealltwriaeth o rôl yr ymddiriedolwr.
Mae hefyd yn addas ar gyfer ymddiriedolwyr sydd ar fin ymgymryd â'r rôl ac sydd am feithrin eu hyder a'u heffeithiolrwydd.
Pam mynychu?
Erbyn diwedd y sesiwn, bydd gennych:
Dealltwriaeth gliriach o rôl yr ymddiriedolwr • Mwy o hyder yn eich cyfrifoldebau • Syniadau ymarferol ar gyfer llywodraethu’n effeithiol • Cyfle i fyfyrio ar eich cryfderau a'ch datblygiad eich hun
Bydd y sesiwn yn ymarferol ac anffurfiol, gan ganolbwyntio ar yr heriau gwirioneddol sy'n wynebu ymddiriedolwyr EOT.
Ynglŷn â'r Clinig Sgiliau
Mae'r sesiwn hon yn rhan o gyfres o Glinigau Sgiliau ymarferol i Ymddiriedolwyr Perchnogaeth gan Weithwyr (EO), a gynhelir gan y tîm Perchnogaeth gan Weithwyr yn Cwmpas. Nod y rhain yw cefnogi ymddiriedolwyr i ddatblygu'r wybodaeth, yr hyder a'r sgiliau sydd eu hangen i wneud cyfraniad cadarnhaol i'w busnesau sy'n eiddo i'r gweithwyr.
Dewch draw, rhannwch brofiadau, dysgwch gan eraill a darganfyddwch beth sydd ei angen i fod yn ymddiriedolwr EOT gwych.
Dewch draw, gofynnwch gwestiynau a darganfyddwch a allai Perchnogaeth gan Weithwyr fod yn ddyfodol i'ch busnes.
I archebu eich lle: