Ydych chi'n ymddiriedolwr Ymddiriedolaeth Perchnogaeth gan Weithwyr (EOT) sy'n awyddus i gryfhau eich dealltwriaeth o faterion cyllid a threth sy'n ymwneud ag EOT?
04/11/2026 – 10am – 11.30am Ar-lein
Mae bod yn ymddiriedolwr EO yn dod â chyfrifoldebau pwysig – gan gynnwys deall sut mae eich busnes yn perfformio’n ariannol, sut mae treth yn effeithio ar y busnes a pha gwestiynau y dylech fod yn eu gofyn.
Mae'r Clinig Sgiliau ymarferol hwn wedi'i gynllunio i helpu ymddiriedolwyr EOT i ddeall gwybodaeth ariannol yn well ac i ystyried sut mae cyfathrebu ac adrodd yn ôl i'r gweithwyr ar sefyllfa ariannol y busnes er mwyn annog meddylfryd “perchennog busnes”.
Mae treth yn fater cymhleth, ond bydd y sesiwn hon yn helpu i ddarparu dealltwriaeth o'r cyfrifoldebau a'r materion treth penodol sy'n effeithio ar yr Ymddiriedolaeth, yr Ymddiriedolwr a'r cwmni o ganlyniad i’r fodel berchnogaeth EO
Wedi'u harfogi â'r wybodaeth hon, gall ymddiriedolwyr lywodraethu'n effeithiol a dylanwadu’n bositif ar gyfeiriad y busnes sy'n eiddo i’r gweithwyr ymhell i’r dyfodol.
Pwy ddylai fynychu?
Mae'r sesiwn sgiliau hon wedi'i hanelu at unrhyw un sydd yn gweithredu fel ymddiriedolwyr EOT, sydd am wella eu dealltwriaeth o faterion ariannol a threth, gan gynnwys effaith y gyllideb ddiweddaraf.
Nid oes angen i chi fod yn arbenigwr ariannol nac yn gyfrifydd. Mae'r sesiwn wedi'i llunio i wneud gwybodaeth ariannol yn fwy hygyrch ac yn berthnasol i rôl ymddiriedolwr EOT, ac i roi trosolwg o'r goblygiadau treth.
Pam mynychu?
Erbyn diwedd y sesiwn, bydd gennych ddealltwriaeth gliriach o:
Beth mae'r ffigyrau'n ei olygu • Beth sydd angen i ymddiriedolwyr ei wybod • Pa gwestiynau i'w gofyn • Ble i geisio cyngor proffesiynol
Y peth pwysicaf yw y byddwch yn teimlo'n fwy hyderus wrth chwarae rhan adeiladol wrth lywodraethu’r busnes sy'n eiddo i'r gweithwyr.
Ynglŷn â'r Clinig Sgiliau
Mae'r sesiwn hon yn rhan o gyfres o Glinigau Sgiliau ymarferol i Ymddiriedolwyr Perchnogaeth gan Weithwyr (EO), a gynhelir gan y tîm Perchnogaeth gan Weithwyr yn Cwmpas. Nod y rhain yw cefnogi ymddiriedolwyr i ddatblygu'r wybodaeth, yr hyder a'r sgiliau sydd eu hangen i wneud cyfraniad cadarnhaol i'w busnesau sy'n eiddo i'r gweithwyr.
Dewch draw, magwch hyder ym meysydd cyllid a threth, a chryfhewch eich rôl fel ymddiriedolwr EO.
I archebu eich lle: