Yn meddwl am ddyfodol eich busnes? Gallai Perchnogaeth gan y Gweithwyr fod yr opsiwn o ran olyniaeth rydych chi wedi bod yn chwilio amdano. Ymunwch â ni i ddysgu mwy.
13/10/2026 – 10am – 11.00am Ar-lein
I lawer o berchnogion busnes, gall cynllunio olyniaeth deimlo fel penderfyniad anodd. Pwy fydd yn cymryd yr awenau dros y busnes? Beth fydd yn digwydd i'r gweithwyr? Sut gallwch chi ddiogelu'r etifeddiaeth rydych chi wedi'i hadeiladu tra'n sicrhau dyfodol cynaliadwy?
Perchenogaeth gan Weithwyr (EO) yn cynnig dull amgen, gan alluogi perchnogion busnes i drosglwyddo perchnogaeth i'w gweithwyr tra'n creu cyfle i'r busnes aros yn annibynnol a pharhau i ffynnu.
Beth fyddwn ni'n ei gwmpasu
Bydd y sesiwn gyflwyniadol hon yn rhoi trosolwg o Perchenogaeth gan Weithwyr fel opsiwn o ran olyniaethgan gynnwys:
- Beth yw Perchenogaeth gan y Gweithwyr? – cyflwyniad i'r gwahanol fodelau a sut maen nhw'n gweithio.
- Ymddiriedolaethau Perchnogaeth Gweithwyr (EOTs) – Deall y llwybr mwyaf cyffredin i fusnesau sy'n ystyried perchnogaeth gan weithwyr (EO).
- Pam ystyried Perchnogaeth gan y Gweithwyr? – y manteision posibl i berchnogion busnes, gweithwyr a dyfodol hirdymor y cwmni.
- Y broses o olynu – trosolwg o'r hyn sy'n gysylltiedig â symud o fod dan arweiniad y perchennog i fod yn eiddo i'r gweithwyr.
- Ystyriaethau ariannol a threth – y prif faterion y mae angen i berchnogion busnes eu deall.
- Llywodraethu a llais gweithwyr – beth sy'n newid pan fydd busnes yn cael ei berchenogi gan y gweithwyr.
- Y manteision a'r heriau – golwg onest ar yr hyn y gall EO ei gyflawni a'r hyn na all ei gyflawni.
- Enghreifftiau o fywyd go iawn – dysgu gan fusnesau sydd wedi gwneud y newid yn llwyddiannus.
- A yw Perchnogaeth gan Weithwyr yn addas ar gyfer eich busnes? – rhai o'r cwestiynau i'w hystyried cyn cymryd y cam nesaf.
I bwy mae'r digwyddiad hwn?
Mae'r digwyddiad hwn wedi'i anelu at perchnogion a chyfarwyddwyr busnes sy'n dechrau meddwl am olyniaeth, yn enwedig perchnogion busnesau bach a chanolig sefydledig.
Dewch draw, gofynnwch gwestiynau a darganfyddwch a allai Perchnogaeth gan Weithwyr fod yn ddyfodol i'ch busnes.
I archebu eich lle: