Tregroes Waffles

  • Becws bach teuluol yw Tregroes Waffles, sydd wedi’i leoli yn Nyffryn Teifi yn ne-orllewin Cymru. Dechreuodd y cyfan ym 1983 pan ddaeth Kees Huysmans i Gymru a sefydlu stondin farchnad yn gwerthu ei fersiwn o stroop traddodiadol o’r Iseldiroedd.
  • Gan recriwtio’n lleol, mae’r busnes yn cyflogi 15 o bobl ac mae’n dal i fod wedi’i wreiddio’n gadarn yn y gymuned – mae’n dipyn o sefydliad yn lleol.
  • Dechreuodd y perchennog archwilio’r cysyniad o Berchnogaeth gan Weithwyr tua phum mlynedd cyn i’r cyfnod pontio ddechrau, wedi’i ysbrydoli gan fodel Partneriaeth John Lewis.
  • Yn 2016, gwerthodd Kees 10% o’i gyfranddaliadau i’r Ymddiriedolaeth, gan ddefnyddio elw’r cwmni i dalu amdanynt. Fel rhan o’r cytundeb, bydd y perchennog yn gwerthu 10% arall i’r Ymddiriedolaeth bob blwyddyn ar yr amod bod y cwmni’n gallu talu amdanynt.
  • Mae’r model Perchnogaeth gan Weithwyr wedi galluogi Tregroes Waffles i gynnal ac adeiladu ar ei lwyddiant yn yr ardal.
  • Manteision: sicrhau olyniaeth busnes esmwyth, gan gadw’r cwmni’n lleol, grymuso’r gweithlu, cefnogaeth ac ymgysylltiad, a’r gallu i reoli newid diwylliant yn barhaus.
  • Gwersi: mae pontio llwyddiannus yn dibynnu ar gynllunio gofalus, tîm cryf, ymgynghorwyr allanol arbenigol, amserlen realistig a chred gyffredin yn hyfywedd a chryfder parhaus y brand.