Cwmnïau yn Aberteifi wedi cael cymorth i drosglwyddo i fod yn fusnes grŵp sy'n eiddo i'r gweithwyr.

Mae 3P Technik UK Ltd a'i chwmni chwaer, Celtic Sustainables Ltd, wedi dod yn grŵp sy'n eiddo i'r gweithwyr, ac maent bellach yn gweithredu fel Celtic House Holdings Limited.

Mae tîm Perchnogaeth gan Weithwyr (PG) Cwmpas wedi cefnogi busnes arall i ddod yn fusnes sy'n eiddo i'w weithwyr.

efydlwyd 3P Technik yn y flwyddyn 2000 gan ei Rheolwr Gyfarwyddwr presennol, Glyn Hyett; roedd y cwmni wedi'i leoli yng Nghaerdydd yn wreiddiol, cyn symud i Aberteifi yn 2005. Yn 2008, sefydlodd Glyn Celtic Sustainables Ltd ar ôl gweld bwlch yn y farchnad ar gyfer cynhyrchion adeiladu cynaliadwy yn yr ardal.

Mae'r newid i fod yn fusnes sy'n eiddo i'r gweithwyr (EO) yn dod â'r ddau gwmni at ei gilydd o dan un grŵp, Celtic House Holdings Limited, gan weithredu o uned ffatri ar y cyd ym Mharc Teifi yn Aberteifi a chyflogi 17 o bobl. Ers symud i Aberteifi dros 20 mlynedd yn ôl, mae'r busnes wedi cyflogi mwy na 50 o bobl leol – rhywbeth sydd wastad wedi bod yn bwysig i'r sylfaenydd, Glyn, ac yn rheswm allweddol dros ei benderfyniad i drosglwyddo perchnogaeth i'r gweithwyr gan ddefnyddio model Ymddiriedolaeth Perchnogaeth Gweithwyr (EOT), yn hytrach na gwerthu'r busnes i gwmni arall.

Bydd Glyn yn aros gyda'r busnes ar ôl iddo drosglwyddo i fod yn eiddo i'r gweithwyr. Esboniodd Glyn:

"Wrth ystyried dyfodol y busnes, roeddwn i eisiau rhoi rhywbeth ar waith i sicrhau ei fod yn aros yn Aberteifi, ac i sicrhau bod gan y bobl sydd wedi bod yn ffyddlon i'r Grŵp ac i mi ers cymaint o flynyddoedd rywfaint o sicrwydd swydd".

“Fe wnes i ystyried y llwybr traddodiadol o werthu i gwmni arall yn y diwydiant, ond doeddwn i ddim yn barod i adael y busnes eto; roeddwn i hefyd yn ymwybodol, pe bawn i’n gwerthu i drydydd parti, y byddai’n debygol y byddai’r swyddi’n gadael y rhanbarth – ac roedd hynny’n rhywbeth nad oeddwn i’n fodlon ei wneud.”

Ychwanegodd Glyn: "Rwy'n aros gyda'r busnes am y dyfodol rhagweladwy, er mwyn gallu trosglwyddo fy ngwybodaeth am drin dŵr ffo ac adeiladu cynaliadwy i weddill y tîm yma, ac i sicrhau bod gan genedlaethau'r dyfodol gyfleoedd i adeiladu gyrfaoedd boddhaus yn y rhan hon o'r byd sydd mor hardd.

"Er y bydd y busnesau’n parhau i weithredu’n annibynnol o dan eu brandiau eu hunain, mae’r cam hwn yn cynrychioli ymrwymiad ar y cyd i stiwardiaeth hirdymor, cyflogaeth leol a busnes cynaliadwy".

Bydd Glyn yn rhan o fwrdd ymddiriedolwyr EOT Celtic House ar gyfer grŵp cwmnïau Celtic House, ynghyd ag aelodau bwrdd yr ymddiriedolaeth i weithwyr, Jane Heard a Rhys Rideout. Yr aelod annibynnol o fwrdd yr ymddiriedolaeth yw Sarah Owens o dîm PG Cwmpas. Mae'r uwch-reolwyr Andrew Mayer, Morag Embleton ac Anthony Kerr wedi'u penodi'n Gyfarwyddwyr newydd Celtic House Holdings.

The Celtic House EOT trustee team

Mae gwasanaeth Employee Ownership Wales gan Cwmpas yn rhan o Social Business Wales ac o deulu Business Wales, y ddau ohonynt yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru. Maent yn cefnogi busnesau wrth iddynt lywio'r broses o drosglwyddo i fod yn eiddo i'r gweithwyr, gan ddarparu cymorth ymgynghorol pwrpasol i'ch helpu i benderfynu a yw perchnogaeth gan weithwyr yn ateb addas i'r perchnogion a'u busnes.

Dywedodd Sarah Owens, Ymgynghorydd Perchnogaeth gan weithwyr arbenigol ar gyfer Cwmpas:

Mae wedi bod yn wych gweithio gyda Glyn a’r tîm yn Celtic House Holdings ar eu trawsnewidiad i fod yn fusnes sy’n eiddo i’r gweithwyr.

“Roedd cymhellion Glyn dros ddefnyddio’r EOT yn glir, a buont o gymorth mawr i ni lunio’r weledigaeth ar gyfer y broses drawsnewid a sut y byddai’n gweithio i Glyn a’i dîm yn y grŵp unigryw hwn o gwmnïau. Mae’n newyddion gwych na fydd y sgiliau a’r arbenigedd a feithrinwyd dros gynifer o flynyddoedd yn cael eu colli, ac y byddant yn aros yng Ngheredigion diolch i’r symudiad hwn tuag at Berchnogaeth gan y Gweithwyr. Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn i Celtic House Holdings, ac roedd yn anrhydedd ein bod wedi gallu eu helpu i gyrraedd y cam nesaf yn eu datblygiad.”

Cafodd Glyn a'r tîm gefnogaeth gan JCP Solicitors drwy gydol y broses o drosglwyddo i fod yn eiddo i'r gweithwyr.

Dywedodd Natalie Jones, Cyfarwyddwr ac arbenigwr EOT yn nhîm Corfforaethol a Masnachol JCP:

Rydym yn falch iawn o fod wedi gallu cefnogi Glyn a’r tîm wrth fabwysiadu model perchnogaeth gan weithwyr ar gyfer y Grŵp. Bydd yr EOT yn sicrhau bod diwylliant y Grŵp yn cael ei ddiogelu, yn ogystal â phresenoldeb parhaus y Grŵp yng Ngheredigion.

"Mae EOTs wedi cynyddu mewn poblogrwydd yn y blynyddoedd diweddar fel ffordd ymarferol ac effeithlon o ran treth o ymadael â busnes – ac mae’r cytundeb hwn yn dangos pa mor dda y gall y model weithio pan gaiff ei roi ar waith yn ofalus. Dymunwn bob llwyddiant i Glyn a’r tîm yn y bennod newydd hon."

Rhoddodd Nick Toye, Cyfarwyddwr BPU, a Martin Knight, Cyfarwyddwr BPU (o'r cwmni cyfrifwyr BPU), gyngor hefyd ar agwedd ariannol y Trafodiad. Dywedodd:

"Mae wedi bod yn wych bod yn rhan o'r broses o drosglwyddo busnesau Cymreig lleol i fod yn eiddo i'r gweithwyr. Mae'r model EOT yn cyd-fynd ag uchelgeisiau blaengar y ddau gwmni ac yn grymuso'r gweithwyr i yrru'r busnesau yn eu blaenau gyda'u hegni a'u syniadau, gan elwa yn y pen draw ar lwyddiant yn y dyfodol. Gall y diwylliant a'r gwerthoedd craidd sy'n rhan annatod o fodel perchnogaeth EOT barhau, ac yn ddi-os, byddant yn galluogi'r busnesau i ffynnu."

Newyddion Eraill